Chwith Parhau i siopa
Eich Archeb

Nid oes gennych unrhyw eitemau yn eich cart

Amdanom Ni

Ein Stori



Wedi’n lleoli yng Nghaerdydd, mae yna ddau blentyn ifanc ac un sy’n dysgu Cymraeg ymhlith ein teulu ni, ac ro’n ni’n siomedig ar gyn lleied o degannau addysgol sydd ar gael sy’n hybu cyd-chwarae ac yn tanio’r dychymyg a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.


Yng nghanol y mynyddoedd o degannau blastig, doedden ni ddim yn teimlo bod y farchnad yn darparu ar gyfer rhieni sydd eisiau cynnyrch chwaethus, clasurol mewn deunydd cynaladwy ar gyfer eu plant.

Mae’n hamrywiaeth o gynnyrch yn anelu at ddarparu teganau pren angenrheidiol a deniadol, sydd yn annog dysgu drwy chwarae gyda phwyslais arbennig ar lythrennedd a rhifedd. Fe fydden nhw yn eu tro yn tyfu a datblygu gyda’ch plentyn o’u blynyddoedd cynnar a thrwy eu dyddiau ysgol.

Mae’n dull o ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn ein cynnyrch nid yn unig wedi'i anelu at siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ond at ddysgwyr yn ogystal, gan chwarae rhan fach o gadw Cymru yn wlad wirioneddol ddwyieithog.

Edrychwn ymlaen i chi ymuno â'n taith drwy chwarae gydag iaith!