Chwith Parhau i siopa
Eich Archeb

Nid oes gennych unrhyw eitemau yn eich cart

YNGLŶN Â MWNCI

WEDI'I LEOLI YNG NGHAERDYDD, ROEDD EIN TEULU SY'N CYNNWYS DAU BLENTYN IFANC A DYSGWR CYMRAEG, YN DDIGALON AM Y DIFFYG TEGANAU ADDYSGOL AR WAHÂN SYDD AR GAEL SY'N ANNOG CHWARAE DYCHMYGUS A RHYNGWEITHIOL DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG.

Yng nghanol y mynyddoedd o degannau blastig, doedden ni ddim yn teimlo bod y farchnad yn darparu ar gyfer rhieni sydd eisiau cynnyrch chwaethus, clasurol mewn deunydd cynaladwy ar gyfer eu plant.

Mae’n hamrywiaeth o gynnyrch yn anelu at ddarparu teganau pren angenrheidiol a deniadol, sydd yn annog dysgu drwy chwarae gyda phwyslais arbennig ar lythrennedd a rhifedd. Fe fydden nhw yn eu tro yn tyfu a datblygu gyda’ch plentyn o’u blynyddoedd cynnar a thrwy eu dyddiau ysgol.

Mae'r defnydd o ymagwedd Cymraeg a Saesneg at ein cynnyrch nid yn unig wedi'i anelu at siaradwyr brodorol ond dysgwyr fel ei gilydd, gan chwarae rhan fach i gadw Cymru'n genedl wirioneddol ddwyieithog. Edrychwn ymlaen at i chi ymuno â'n taith drwy chwarae gydag iaith!

Cael cip-olwg o'n cynnyrch sydd i ddod