Mae misoedd y gaeaf ar ben ac mae natur yn dechrau deffro unwaith eto.
-
The winter months are over and nature begins to wake up again.
Darganfyddwch arwyddion cyffrous y Gwanwyn, lawrlwythwch ein taflen lliwio 'blodyn' a chadwch golwg ar yr amser y Gwanwyn hwn gyda'n Calendr Cymraeg!
-
Discover the exciting signs of Spring you can look out for, download a flower colouring sheet and keep track of time this Spring with Mwnci’s Welsh Calendar!
Arwyddion y Gwanwyn
-
The Signs of Spring
Anifeiliaid
-
Animals
Mae llawer o anifeiliaid bach yn cael eu geni yn ystod y Gwanwyn. Mae'n rhoi amser iddyn nhw dyfu i fyny yn ystod tywydd cynhesach a dysgu pethau pwysig gan eu rhieni, cyn bod angen iddyn nhw borthi am fwyd a pharatoi ar gyfer y gaeaf.
Faint o'r anifeiliaid canlynol fyddwch chi'n eu gweld y gwanwyn hwn:
-
Many baby animals are born during Spring. It gives them time to grow up during the warmer weather and learn important things from their parents, before they need to forage for food and prepare for winter.
See if you can spot any of these animals this spring:
Ŵyn
-
Lambs
Yn ystod y Gwanwyn, mae defaid yn rhoi genedigaeth i rhwng un a thri oen. Gall y rhan fwyaf o ŵyn sefyll i fyny ychydig oriau ar ôl iddynt gael eu geni!
-
During Spring, the female sheep gives birth to between one and three lambs. Most lambs can already stand up a couple of hours after they are born!
Penbyliaid
-
Tadpoles
Mae brogaod yn gosod clystyrau o wyau o'r enw grifft. Ar ddechrau'r Gwanwyn, mae'r wyau'n deor i benbyliaid. Does ganddyn nhw ddim breichiau na choesau eto ond mae ganddyn nhw gynffon ar gyfer nofio, am fod y frogaod ddodwy eu hwyau mewn dŵr. Cadwch lygad allan y Gwanwyn hwn os ydych chi'n agos at bwll!
-
Frogs lay clusters of eggs called frogspawn. Early Spring, the eggs hatch into tadpoles. They don’t have any arms or legs yet but they have a tail for swimming, as frogs lay their eggs in water. Keep your eyes peeled this Spring if you are near a pond!
Adar
-
Birds
Efallai y byddwch yn dechrau eu clywed yn fwy yn y bore! Mae llawer o adar yn adeiladu eu nythod yn gynnar yn y Gwanwyn, gan gynnwys y barcud coch, sef aderyn cenedlaethol Cymru!
-
You might start hearing them more in the morning! Many birds are building their nests early Spring, including the red kite, which is the national bird of Wales!
BLODAU
-
FLOWERS
Mae'r rhan fwyaf o flodau'n blodeuo yn ystod misoedd y gwanwyn. Mae digon o liwiau a blodau hardd i edrych arnynt drwy gydol y tymor!
-
Most flowers bloom during the spring months. There are plenty of colours and beautiful flowers to look at all throughout the season!
Lawrlwythwch ein taflen lliwio 'blodyn' isod a chael hwyl yn ei lliwio!
-
Download our flower colouring sheet below and have fun colouring it in!
Pryfed
-
Insects
Nid yw pawb yn hoffi pryfed ond hebddynt, ni fyddai natur yn gweithredu! Dyma rai y gallwch weld o gwmpas y lle pan fyddwch yn treulio amser y tu allan y Gwanwyn hwn:
-
Not everyone likes insects but without them, nature would not function! Here are a few you can look out for when you spend time outside this Spring:
Gwenyn
-
Bees
Unwaith y bydd blodau'n dechrau blodeuo, dylech weld gwenyn yn casglu neithdar yn ogystal â pheillio planhigion.
-
Once flowers start blooming, you should see bees collecting nectar and pollinating plants.
Buwch Goch Gota
-
Ladybugs
Sawl smotyn sydd gan y math mwyaf cyffredin o fuwch goch gota yng Nghymru?
3 - 7 - 13
(Ateb ar waelod y dudalen)
-
How many spots does the most common type of ladybug in Wales have?
3 - 7 - 13
(Answer at the bottom of the page)
Dyddiau Hirach
-
Longer Days
Mae cyhydnos y gwanwyn ar yr 21ain o Fawrth yn nodi dechrau tymor y Gwanwyn. Mae cyhydnos yn golygu ein bod yn cael yr un faint o amser dydd ac amser nos. Ar ôl y gwanwyn, mae'r dyddiau'n mynd yn hirach na'r nosweithiau.
Sylwch sut mae'r haul yn machlud yn hwyrach bob dydd!
-
The spring equinox on the 21st of March marks the beginning of the Spring season. An equinox means that we get an equal amount of daytime and night-time. After the spring equinox, the days become longer than the nights.
Notice how the sun goes down later each day!
Dysgwch ddyddiau'r wythnos, misoedd, tymhorau a'r tywydd yn Gymraeg gyda'r calendr hwn! Cyfrifwch y dyddiau i lawr ar gyfer holl ddigwyddiadau mawr y flwyddyn!
-
Learn the days of the week, months, seasons and the weather conditions in Welsh with this calendar! Count down the days for all the big events of the year!
Mae gan y math mwyaf cyffredin o fuwch goch gota yng Nghymru 7 smotyn!
-
The most common type of ladybug in Wales has 7 spots!